Tour de France 2009

Tour de France 2009
Enghraifft o'r canlynolTour de France Edit this on Wikidata
Rhan o2009 UCI World Ranking Edit this on Wikidata
Dechreuwyd4 Gorffennaf 2009 Edit this on Wikidata
Daeth i ben26 Gorffennaf 2009 Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd ganTour de France 2008 Edit this on Wikidata
Olynwyd ganTour de France 2010 Edit this on Wikidata
Yn cynnwys2009 Tour de France, Stage 1, 2009 Tour de France, Stage 2, 2009 Tour de France, Stage 3, 2009 Tour de France, Stage 4, 2009 Tour de France, Stage 5, 2009 Tour de France, Stage 6, 2009 Tour de France, Stage 7, 2009 Tour de France, Stage 8, 2009 Tour de France, Stage 9, 2009 Tour de France, Stage 10, 2009 Tour de France, Stage 11, 2009 Tour de France, Stage 12, 2009 Tour de France, Stage 13, 2009 Tour de France, Stage 14, 2009 Tour de France, Stage 15, 2009 Tour de France, Stage 16, 2009 Tour de France, Stage 17, 2009 Tour de France, Stage 18, 2009 Tour de France, Stage 19, 2009 Tour de France, Stage 20, 2009 Tour de France, Stage 21 Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Llwybr y daith yn 2009

Tour de France 2009 oedd y 96ed rhifyn o'r Tour de France. Datganwyd lle byddai'r rhifyn hwn yn dechrau gan y Tywysog Albert yn Monaco ar 14 Rhagfyr 2007.[1] Dechreuodd y ras ar 4 Gorffennaf yn Monaco gyda threial amser unigol 15 cilomedr o hyd. Roedd y cwrs yn cynnwys rhan o'r Circuit de Monaco. Dechreuodd Cymal 2 yn Monaco hefyd.[2]

Ymwelodd y ras a chwe gwlad: Monaco, Ffrainc, Sbaen, Andorra, y Swistir a'r Eidal.[3] Roedd y ras yn gyfanswm o 3445 cilomedr o hyd, gan gynnwys 93 cilomedr o dreialon amser. Roedd saith cymal mynyddig a thri yn gorffen fyny allt, ac un cymal ar fynydd-canolig.[4] Cynhaliwyd treial amser tîm am y tro cyntaf ers 2005, a chynhaliwyd y treial amser unigol byrraf ers 1967, roedd y cymal olaf yn un fynyddig am y tro cyntaf yn hanes y Tour.

Yn ystod y blynyddoedd diweddar, mae'r syniad wedi cael ei grybwyll o leihau faint o gyfathrebu sydd yn mynd ymlaen rhwng rheolwyr y ras a'r reidwyr yn ystod y cymalau. Bwriadwyd arbrofi gyda hyn yng nghymalau 10 ac 13 yn 2009, wrth wahardd defnydd darnau-clust.[5]

  1.  Friday's EuroFile: '09 Tour to open in Monaco. VeloNews.com (2007-12-14).
  2.  Grand start 2009. LeTour.fr.
  3.  Stage by stage. LeTour.fr.
  4.  The Tour 2009. LeTour.fr.
  5.  Cycling Earpieces banned on two Tour de France stages. yahoo.com (2009-06-18).

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search